Lleoliad y cyfarfod:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Llun, 12
Ebrill 2021
Amser y
cyfarfod: 11.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12297
------
Roedd y cyfarfod hwn yn gyfarfod adalw o’r Senedd o dan Reol Sefydlog 12.3, a gynhaliwyd ar ffurf rhithwir, gydag Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Teyrngedau i'w Uchelder Brenhinol Dug Caeredin
Dechreuodd yr eitem am 11.00
Arweiniwyd y Senedd gan y Llywydd i nodi munud o dawelwch. Galwodd y Llywydd ar y Prif Weinidog, arweinwyr y pleidiau ac Aelodau eraill i dalu teyrngedau.
Daeth y cyfarfod i ben am 11.37